Home Up

Rhieni

                       Pennaeth: Mrs Tracy Ann Richardson Jones

Croeso i wefan Ysgol Llandwrog

 

Cyswllt â Rhieni

 Mabwysiadwyd yn yr ysgol bolisi drws agored, lle mae rhyddid i'r rhieni ddod i mewn i drafod gwaith y plant unrhyw adeg gyda threfniant wedi ei wneud o flaen llaw.  Yn ogystal â hyn ceir tri Cyfarfod Rhieni, yn Nhymor yr Hydref i drafod unrhyw broblem, ateb cwestiynau, rhannu gofynion y flwyddyn a gosod targedau personol, Tymor y Pasg i edrych ar waith y plant ac edrych ar gynnydd a'r ffordd ymlaen, yn Nhymor yr Haf i drafod adroddiad blynyddol eu plant, unrhyw asesiadau, ac i weld gwaith y plant.

 Caiff y rhieni hefyd gyfle i weld datblygiad eu plant drwy waith cartref a fydd yn cael ei osod yn rheolaidd i blant yr ysgol i gyd.  Caiff pob plentyn "fag darllen / gwaith cartref" a bydd disgwyl i bob un ddarllen yn ddyddiol, yn ogystal â gwaith cartref fydd yn deillio o waith y dosbarth, yn ymestyniad o waith y dosbarth, neu waith cartref o hwyl.  Weithiau os bydd yr athrawes yn teimlo nad yw plentyn wedi rhoi o'i gorau gyda'r gwaith dosbarth,  bydd y gwaith yn cael ei gwblhau gartref.

Cytundeb Cartref/Ysgol

 Ti a Fi

 Mae Clwb Ti a Fi, prysur, yn cael ei gynnal yn wythnosol ar bnawn Gwener, am 2 o’r gloch yn neuadd yr ysgol.  Croeso i bawb.