Home Up Cyngor Ysgol

Y Gymuned

                       Pennaeth: Mrs Tracy Ann Richardson Jones

Croeso i wefan Ysgol Llandwrog

 


Pentref Llandwrog

2.jpg 3.jpg

 

 

 

 

                                                             http://users.netmatters.co.uk/davidbryant/C/index.html

                                                http://users.netmatters.co.uk/davidbryant/c/index.html

Cyswllt â'r Gymuned

 Mewn ysgol fechan fel Llandwrog, mae cysylltiadau â'r gymuned yn bwysig iawn.  Ceisiwn ein gorau i gyflwyno i'r plant gyfoeth eu hamgylchfyd, y gyfoeth dynol a chyfoeth natur.

Mae sawl cyswllt â’r gymuned, gyda gwahoddiad agored i'r gymuned i wasanaeth Diolchgarwch yr ysgol yn yr Eglwys ac i’r cyngerdd Nadolig. 

Bu côr yr ysgol hefyd yn canu mewn gwasanaeth lansio wythnos Cymorth Cristnogol. Mewn cymdeithas glos mae'n bwysig rhannu ein cyfleoedd, mae'r Urdd (Adran Bentref), Clwb yr Eglwys Clwb Ti a Fi a Merched y Wawr a dosbarthiadau nos, garddio a gosod blodau wedi gwneud defnydd da o neuadd yr ysgol.  Rydym yn andros o ffodus o'r gefnogaeth gan y gymuned i'n gweithgareddau.  Mae cysylltiad agos â  Glynllifon, ac mae’r plant wedi elwa llawer o’r gweithgareddau yno. Ar y cyd gyda phwyllgor yr eisteddfod fe ail godwyd Sioe Gwyl Ifan haf 2004 yn llawn cystadleuthau, stondinau, a mwynhad I bawb yn y gymuned. Anelwn at barhau yr Wyl yn flynyddol.

 Cyswllt a diwydiant

 Er mai ardal wledig yw ein bro rydym wedi gwneud cysylltiad a fywyd busnes gyda chynllun cynllunio, argraffu a gwerthu cardiau Nadolig. Mae’r Cyngor Ysgol hefyd yn rhedeg siop ffrwythau i ddarparu byrbryd iach i bawb.

 Ysgol Uwchradd

 Mae'r trosglwyddo o'r cynradd i'r uwchradd yn cael ei wneud mor esmwyth â phosibl i'r plant.  Cânt fynd i'r ysgol uwchradd ar nifer o ymweliadau, a gwario diwrnod yno i gael blas ar wersi a bywyd yr ysgol.  Daw athrawon o'r uwchradd i gyfarfod â'r plant ar eu tir eu hun ac yn ateb unrhyw gwestiynau.  Byddent yn llenwi llyfrynnau bach amdanynt eu hunain er gwybodaeth i'w h'athrawon newydd.

Caiff rhieni hefyd ddigon o gyfleoedd i gael gwybodaeth am yr uwchradd.  Cânt lyfrynnau tebyg i hwn i egluro trefniadaeth yr ysgol, cânt fynd i'r ysgol i gyfarfod y pennaeth a'r athrawon mewn cyfarfod anffurfiol wrth fynd i nôl eu plant ar ôl eu diwrnod ymweld.

EGLWYS TWROG 

Dyma fap o bentref Llandwrog 'nôl yn 1751.Cafwyd y map hwn ei wneud a'r ran Sir John Wyn Bart er mwyn marcio caeau yn y pentref. Os edrychwch ar y map, gwelir ein bod wedi labelu'r
canlynnol:-becws, Ty'n Llan, Rose cottage a chae'r eglwys.
Cafodd "llan" neu sefydliad Gristnogol ei ffurfio yn Llandwrog yng nghanol y 6ed ganrif gan Twrog Mabithel Hael o Lydaw. Roedd Twrog yn ddilynwr i Sant Beuno, Clynnog. Mae'n debyg bod yr eglwys wreiddiol ar y safle a welwn heddiw, wei ei amgylchu gan ychydig o gytiau. Mae sawl eglwys wedi ei adeiladu ar y safle dros y blynyddoedd nes i ni ddod at yr eglwys fel ac y mae heddiw.